Nadolig 2014
Nadolig 2014, 11
Oherwydd pan floeddir y gorchymyn, pan fydd yr archangel yn galw ac utgorn Duw yn seinio, bydd yr Arglwydd ei hun yn disgyn o’r nef; (1 Thesaloniaid 4:16 BCN)
Mae heddiw yn ddiwrnod i ffarwelio yn ein tŷ ni. Mae ein merch, Heledd, sydd wedi bod adref am bythefnos dros ŵyl y Nadolig, yn dychwelyd i Slovakia, lle mae’n gweithio i sefydlu Undebau Cristnogol yn y prifysgolion yno. Bu’n braf iawn ei chael adref, ond mae’n gorfod mynd yn ôl yno heddiw, ac wedi brecwast fe fyddwn yn mynd â hi i faes awyr Manceinion. (rhagor…)