Auschwitz
Meddwl am Auschwitz (6)
Un o’r cwestiynau sy’n cael ei holi yn aml yng nghyd-destun yr holocost yw “Faint oedd yr Almaenwyr yn gyffredinol yn ei wybod am yr hyn oedd yn digwydd?” Mae’n rhaid eu bod yn gwybod rhwyfaint, oherwydd roedden nhw wedi gweld yr hyn ddigwyddodd yn y dinasoedd wrth i’r Iddewon gael eu cyfyngu i’r ghettos, a gweld miloedd ohonynt yn diflannu i’r gwersylloedd. Os nad oeddent yn gwybod beth yn union oedd yn digwydd yno, na maint y creulondeb, eto roedd yn rhaid eu bod yn gwybod rhywfaint. (rhagor…)