Nadolig
Deiet wedi’r Dolig
Mae’n siwr mai un testun trafod fydd yn dod i’r amlwg rwan, fel bob blwyddyn, fydd “mynd ar ddeiet.” Wedi’r gwledda dros yr ŵyl mi fydd pobl yn meddwl am ffyrdd o golli’r pwysau a chael gwared â’r modfeddi sydd wedi cael eu hychwanegu at ein canol gan y mins peis, y gacen Nadolig a’r siocledi. Mae bwyta’n iach yn beth synhwyrol i’w wneud, yn enwedig pan fyddwn yn clywed fod gordewdra yn un o broblemau mwyaf iechyd pobl yn y wlad hon. Wedi’r cyfan, pwy sydd am ddioddef o glefyd y galon, clefyd siwgr, neu un o’r llu o bethau y dywedir sy’n deillio o fod dros bwysau? (rhagor…)