Nadolig
Nadolig 2014, 10
Daethant i’r tŷ a gweld y plentyn gyda Mair ei fam; syrthiasant i lawr a’i addoli, ac wedi agor eu trysorau offrymasant iddo anrhegion, aur a thus a myrr. (Mathew 2:11 BCN)
Am nifer o resymau mae’r Nadolig yn cael ei gysylltu gydag anrhegion. Fe ddaeth y Doethion ag anrhegion i’w rhoi i’r baban Iesu. Cofiwn mai anrheg mawr Duw i’n byd yw yr Arglwydd Iesu ei hun. Daeth yn draddodiad felly i roi anrhegion i’n gilydd wrth ddathlu. (rhagor…)