Adfent 2014
Tymor yr Adfent 2014, 19
Ond wedi’r dyddiau hynny beichiogodd Elisabeth ei wraig; ac fe’i cuddiodd ei hun am bum mis, gan ddweud, “Fel hyn y gwnaeth yr Arglwydd i mi yn y dyddiau yr edrychodd arnaf i dynnu ymaith fy ngwarth yng ngolwg y cyhoedd.” (Luc 1:24-25 BCN)
Rydym wedi meddwl am Sachareias (gweler myfyrdod ar Ragfyr 12fed). Dyma droi heddiw at Elisabeth ei wraig. Rydw i’n cofio pan oedden ni yn disgwyl ein plentyn cyntaf roeddwn am i’r byd i gyd wybod – dyna ymateb naturiol i bâr priod. ond ymateb Elisabeth oedd cuddio ei hun rhag y cyhoedd. (rhagor…)