Adfent 2015
Tymor yr Adfent 16
Darllenwch Mathew 1:18-25
Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng,
A Duw ar drai ar orwel pell;
Dyna fel y mynegodd Hedd Wyn ei deimladau wrth feddwl am y Rhyfel Mawr. Â ninnau gan mlynedd yn ddiweddarach diolch nad ydym yn wynebu ffosydd Fflandrys a Passchendaele. Ond i lawer mae’n byd yn teimlo fel un lle mae Duw wedi pellhau. Dyna pam mai un o’r enwau gafodd Iesu yn mynd â ni at ganol neges y Nadolig – Emaniwel, sef Duw gyda ni. (rhagor…)