Blwyddyn Newydd
“Ffordd na chenfydd llygad barcut”
Mae’r flwyddyn sy’n ymestyn o’n blaen yn llawn o brofiadau gwahanol i bob un ohonom. Wyddom ni ddim beth ddaw. Tydi hynny ddim yn golygu fod yn rhaid i ni bryderu am yr hyn a ddaw. Un ffordd o dawelu ein pryderon yw edrych yn ôl ar y rhai sydd wedi mynd o’n blaen. Mae yna rhyw falchder ynom weithiau, sy’n mynnu bod ein hanes ni yn wahanol i hanes pawb arall. Mae datblygiadau ein hoes ni yn golygu fod ein hamgylchiadau yn gymaint mwy heriol na’r oesau a fu. Does yna neb sydd wedi wynebu sefyllfa mor anodd â ni. (rhagor…)