Cynhadledd ELF 8

Rhai o'r cynadleddwyr yn ELF

Rhai o’r cynadleddwyr yn ELF

Rwyf bellach ar fy ffordd adref o Wisla. Roedd y cyfarfod olaf yn gyfle braf i ni gyd addoli gyda’n gilydd – dros 40 o genhedloedd gwahanol, a’r tro hwn roedd nifer dda o’r gwirfoddolwyr sy’n peri bod y gynhadledd yn rhedeg yn esmwyth wedi ymuno gyda ni. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn dod o’r UDA. Bydd llawer ohonyn nhw yn rhoi heibio yr ychydig wyliau sydd ganddynt, a phawb yn talu ei ffordd ei hun. Maent yn ein tywys, yn paratoi taflenni di rif o wybodaeth, recordio’r cyfarfodydd ar sain ac ar fideo fel eu bod ar gael i ni wedyn, trefnu ein teithio nol a mlaen i’r maes awyr, gweddio a llu o bethau eraill. Gwerthfawrogir eu cyfraniad yn fawr. (rhagor…)

Cynhadledd ELF 5

Dydd Llun.

Wedi brecwast am 7.00 roedd y prif gyfarfod am 8:15. Roedd John Lennox yn ein harwain eto drwy hanes Abraham. Y tro hwn dilynwyd y patriarch o’i alwad (Genesis 11:1) ymlaen i’r Aifft lle cafodd ei geryddu oherwydd Sarai, ymlaen i’r rhyfel lle achubodd Lot, a’i gyfarfyddiad gyda Melchisedec. Roedd llawer o gymhwyso ymarferol yma, a her i ystyried ein perthynas â’n gwragedd/gwŷr, ein eiddo, a’n uchelgais.
 

Yr Athro William Edgar

Yr Athro William Edgar

(rhagor…)

Cynhadledd ELF 4

Roedd cyfarfod neithiwr (nos Sul) yn heriol tu hwnt. Fel arfer mae’r cyd-ganu a chyd-weddio yn fendithiol. Cafwyd dau gyfweliad yn ystod y cyfarfod. Roedd y cyntaf gyda Bert de Ruiter, Cristion sydd wedi bod yn gweithio gyda rhai o grefydd Islam ers blynyddoedd. Y cwestiwn cyntaf a ofynnwyd iddo oedd, beth yw’r broblem fwyaf o safbwynt perthynas Cristnogion a Moslemiaid yn Ewrop ar y funud? Ei ateb oedd: Cristnogion. (rhagor…)

Cynhadledd ELF 3

Dydd Sul

Yr Athro John Lennox

Yr Athro John Lennox

Dechreuodd y diwrnod gyda brecwast am 7.00 y bore yn mentora gŵr ifanc o Latvia. Yna, wedi awr o drafod ei sefyllfa a cheisio cynnig doethineb a chyngor, dyma fynd i gyfarfod llawn cyntaf y diwrnod. Roedd hwn yn cael ei arwain gan Stefan Gustavson, sy’n dod o Sweden. Mae ei hiwmor bob amser yn gafael mewn pobl, ac fel arfer wedi ei gyfeirio tuag at bobl o Norwy. Ond roedd ochr ddifrifol iawn hefyd wrth iddo ein harwain i ystyried gras Duw. Yna daeth John Lennox ymlaen i’n harwain i edrych ar y Beibl. (rhagor…)

Cynhadledd ELF 2

Y rheilffordd yn arwain i fynedfa gwersyll BirkenauY rheilffordd yn arwain i fynedfa gwersyll Birkenau

Soniais y tro diwethaf am ymweld â gwersyll Auschwitz. Nid wyf am ddweud llawer eto am yr ymweliad hwnnw – daw hynny wedi i mi gael ystyried mwy ar yr hyn a welwyd. Ond rwyf am gyfeirio at ddau beth penodol am yr hyn y bupm yn ei drafod. Yn gyntaf, roedd y ferch oedd yn ein tywys oddi amgylch y gwersyll wedi denu ein sylw am ddau reswm. Daria oedd ei henw, ac mae’n amlwg nad job o waith oedd ein tywys oddi amgylch. (rhagor…)

Y Diwrnod Olaf

Daeth diwrnod olaf y gynhadledd. Diwrnod yn rhydd o fentora oedd hwn, felly roedd y prydau bwyd yn gyfle i sgwrsio’n fwy hamddenol gyda chyfeillion. Dyna Jonathan Stephen a Joel Morris o goleg WEST ym Mryntirion. Mae’r cysylltiadau sy’n gallu codi yma yn fawr ac rwyf wedi llwyddo i gyflwyno ambell un iddyn nhw. Wedyn dyna sgwrs gyda gweinidog o Hwngari. Roedd ei wraig wedi cael gweithdy a arweiniais llynedd yn gymorth mawr, ac roedd hynny’n galondid i minnau yn fy nhro. (rhagor…)