Teyrnged
Geraint Morgan – cyfaill a chyd-weithiwr
Ar Ionawr 15fed bu farw’r Parch. Geraint Morgan, Carneddi, Lôn y Bryn yn yr ysbyty wedi cyfnod o waeledd. Bu Geraint yn gyfaill i ni yma yng Nghapel y Ffynnon a dyma air o deyrnged iddo. (rhagor…)
Ar Ionawr 15fed bu farw’r Parch. Geraint Morgan, Carneddi, Lôn y Bryn yn yr ysbyty wedi cyfnod o waeledd. Bu Geraint yn gyfaill i ni yma yng Nghapel y Ffynnon a dyma air o deyrnged iddo. (rhagor…)
Darllenwch Luc 1:26-38
Rhan fawr o’r Nadolig i lawer yw’r anrhegion. Mae hynny wrth gwrs yn golygu y bydd ambell un wrthi mewn panic yn rhuthro i’r siopau heddiw neu hyd yn oed yfory yn chwilio am yr anrheg munud olaf hwnnw. Cawn y jôcs blynyddol am yr anrhegion anaddas (y siwmper nadolig llachar) neu anniddorol (pâr arall o sannau!). (rhagor…)
Darllenwch Mathew 1:18-25
Mae yna rai cymeriadau sy’n amlwg yn hanes Iesu Grist, ond mae yna eraill sy ddim yn cael cymaint o sylw. Eto mae eu lle yn bwysig tu hwnt yn y stori. Cymrwch chi Joseff. Fydd o byth yn cael cymaint o sylw â Mair. Ac eto roedd ei gyfraniad yn allweddol, ac yn rasol iawn hefyd. (rhagor…)
Darllenwch Actau 17:16-3
Un o fendithion dod i rhywle fel Athen yw sylweddoli ein bod yn byw mewn byd sydd â hanes iddo. Bore ddoe cefais ddringo’r Acropolis, a chael fy arwain drwy hanes gwahanol gyfnodau a brwydrau’r ddinas a chenedl y Groegiaid. Dyma ddinas dysg, lle bu athronwyr mawr Groeg wrthi yn trafod eu syniadau mawr. (rhagor…)
Mae’n ganol wythnos, a phrysurdeb gwaith a gorchwylion gwahanol yn llenwi ein meddyliau. Mae’r penwythnos diwethaf yn ymddangos yn hir yn ôl ar un olwg. Ond mi fydd nifer ohonoch sy’n darllen hwn wedi gwrando pregeth (neu ddwy efallai) dydd Sul. Beth sydd wedi digwydd i’r hyn glywsoch chi? Mae Read more…
Bob Mis Ionawr un o’r digwyddiadau sy’n dwyn bryd dilynwyr pêl-droed yw’r cyfle geir i glybiau brynu a gwerthu chwraewyr – y “transfer window”. Er mwyn gosod trefn ar bethau dim ond ar adegau arbennig bydd chwaraewyr yn cael newid clybiau. Mae yna ddyfalu felly pwy gaiff fynd i’r clybiau mawr, a faint o arian gaiff ei dalu amdanyn nhw. Gyda’r gystadleuaeth rhwng y clybiau a’u dilynwyr mor frwd, mae ambell i chwaraewr yn cael ei drin yn bur hallt gan gefnogwyr os yw’n symud o un clwb at un arall sy’n cystadlu yn yr un gynghrair. Mae newid tîm yn beth mawr ym myd pêl droed. (rhagor…)
Oherwydd pan floeddir y gorchymyn, pan fydd yr archangel yn galw ac utgorn Duw yn seinio, bydd yr Arglwydd ei hun yn disgyn o’r nef; (1 Thesaloniaid 4:16 BCN)
Mae heddiw yn ddiwrnod i ffarwelio yn ein tŷ ni. Mae ein merch, Heledd, sydd wedi bod adref am bythefnos dros ŵyl y Nadolig, yn dychwelyd i Slovakia, lle mae’n gweithio i sefydlu Undebau Cristnogol yn y prifysgolion yno. Bu’n braf iawn ei chael adref, ond mae’n gorfod mynd yn ôl yno heddiw, ac wedi brecwast fe fyddwn yn mynd â hi i faes awyr Manceinion. (rhagor…)
Cwestiwn arall i ni ei ystyried wrth feddwl am yr hyn a gredwn yw hwn: A fedra i fyw gyda’m cred? Beth yw canlyniad credu fel y gwna’r Atheistiaid Newydd ac a oes modd byw yn ôl y gred honno?
Yn gyntaf, mae’n ymddangos yn gred ddigalon iawn. Mewn dyfyniad enwog o eiddo Francis Crick, (a ddarganfyddodd strwythur DNA gyda’i gydweithiwr James Watson) dywedodd: “ ‘You,’ your joys and your sorrows, your memories and your ambitions, your sense of personal identity and free will, are in fact no more than the behaviour of a vast assembly of nerve cells and their associated molecules. Who you are is nothing but a pack of neurons.” (The Astonishing Hypothesis: The Scientific Search for Soul (1994)) (rhagor…)
“Mind the gap.” Ryden ni gyd wedi clywed y geiriau wrth i’r tren nesáu at yr orsaf. Os na wyliwn, mae perygl i ni cael ein hanafu’r ddifrifol. Rhaid camu dros y bwlch o’r tren i’r platfform.
Mae hyn yn ddarlun o sut gall ein ffydd fel Cristnogion fod. Un peth yw cael ffydd yn y pen – rhyw ffydd ymenyddol yn unig. Er i ni efallai fod â ffydd fyw ar un adeg mae’n hawdd iddo ddirywio, nid yn gymaint i fod yn ffydd farw, ond yn rhywbeth sy’n llai na ddylai fod. Mae yna fwlch yn gallu codi rhwng yr hyn a gredwn, a’n profiad o ddydd i ddydd. (rhagor…)