Tymor yr Adfent 2014, 5

imageGosodaf elyniaeth hefyd rhyngot ti a’r wraig, a rhwng dy had di a’i had hithau; bydd ef yn ysigo dy ben di, a thithau’n ysigo’i sawdl ef.” (‭Genesis‬ ‭3‬:‭15‬ BCN)

A oeddwn yn rhy galed ar Efa ym myfyrdod ddoe? Hi oedd y cyfrwng i’r sarff ddwyn gofid i’n byd.  Trwyddi hi daeth pechod yn rhan o’n natur. Mae’r hanes yn Genesis yn dweud wrthym fod Adda yn gyd-gyfrifol am y bai, am nad ataliodd hi rhag bwyta; yn hytrach ymunodd gyda hi mewn gwrthryfel yn erbyn gorchymyn Duw. Ond hi gymrodd y ffrwyth. (rhagor…)

Tymor yr Adfent xi

Mae a wnelo deall y Nadolig â deall ein cyflwr ni. Mae’r Beibl yn rhoi’r urddas mwyaf i ni, oherwydd rydym yn darllen yn y bennod gyntaf oll ein bod wedi ein creu ar lun a delw Duw. Mae yna rhywbeth amdanom ni sy’n ein gosod arwahán i weddill y creaduriaid. Mae nhw’n dangos creadigrwydd a gallu Duw, fel mae darlun yn gallu dangos dawn arlunydd. Ond rydym ni wedi ein creu i fod yn fwy, fel hunan-bortread lle mae’n dangos ei natur ei hun. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 3

Os oedd tarddiad stori’r geni yn nhragwyddoldeb, daw yn angenrheidiol unwaith dechreuwn edrych ar hanes y ddynolryw. Yn Genesis gwelwn Dduw yn creu’r bydysawd allan o’i gariad, a dyn (yn wryw ac yn fenyw) yn goron y greadigaeth honno. Go brin y gallwn ddychmygu yr hyfrydwch a brofai Adda ac Efa wrth fod mewn tangnefedd perffaith gyda gweddil y greadigaeth, a gyda’u Crëwr. (rhagor…)