Adfent 2014
Tymor yr Adfent 2014, 16
Ni fydd yn gweiddi nac yn codi ei lais, na pheri ei glywed yn yr heol. Ni fydd yn dryllio corsen ysig, nac yn diffodd llin yn mygu; bydd yn cyhoeddi barn gywir. (Eseia 42:2-3 BCN)
Yr hyn sydd wedi llenwi’r newyddion dros yr oriau diwethaf yw’r gwarchae mewn caffi yn Sydney, Awstralia. Mae bron yn amhosib dychmygu teimladau y rhai a ddaliwyd yn y digwyddiad. Doedden nhw’n gwneud dim byd mwy peryglus na mynd am baned, ac yn sydyn fe aeth eu byd yn chwilfriw. Mewn braw am oriau – yn gorfod sefyll gyda’u dwylo yn yr awyr dan fygythiad, wydden nhw ddim ai byw neu marw fydden nhw. (rhagor…)