Adfent 2015
Tymor yr Adfent 24
Darllenwch Ioan 18:33-38
Un o’r geiriau mae Ben, ein ŵyr bach tair mlwydd oed, wedi ei ddarganfod yn ystod y misoedd diwethaf ydi “Pam?” Dro ar ôl tro, wrth i mi dynnu ei sylw at rywbeth neu pan fydda i’n dweud wrtho fo am wneud rhywbeth, fe ddaw’r cwestiwn “Pam?” Mae’n un o’r pethau hynny sy’n gosod dyn arwahán i greaduriaid eraill ar y ddaear yma. Mae’r gallu i gwestiynu, ac i geisio deall y rheswm y tu ôl i ddigwyddiadau a bodolaeth y byd yn ran o’n harbenigrwydd ni. (rhagor…)