Adfent 2015
Tymor yr Adfent 13
Darllenwch Genesis 3:14-15; a Hebreaid 2:14-18
Un o’r gorchwylion cyntaf wrth i blentyn gael ei eni yw dewis enw iddo. Mae pob math o resymau yn gallu bod ym meddyliau’r rhieni wrth wneud eu dewis – gall fod oherwydd eu bod yn hoffi sŵn yr enw. Yn aml bydd y plentyn yn cael ei enwi ar ôl rhywun – a gobaith y rhieni yw y bydd yn dod yn debyg i’r person hwnnw mewn rhyw ffordd – bydd yn “byw i fyny i’r enw” chwedl y Sais. (rhagor…)