Blwyddyn Newydd
Nadolig 2014, 8
“Ewch, a chwiliwch yn fanwl am y plentyn, a phan fyddwch wedi dod o hyd iddo, rhowch wybod i mi er mwyn i minnau hefyd fynd a’i addoli.” (Mathew 2:8 BCN)
Beth tybed fydd yn digwydd yn ystod y flwyddyn nesaf hon? Mae’r cyfryngau yn ceisio dyfalu a phroffwydo sut flwyddyn fydd hi. Mae yna ddarogan mwy o gythrwfl yn y Dwyrain Canol. Mae’r rhai sydd â diddordeb mewn chwaraeon yn rhagweld pwy fydd yn ennill y cynghreiriau pel droed. (rhagor…)