Adfent 2013
Tymor yr Adfent xv
Heddiw mae sylw mawrion y byd ar lecyn tlawd, diarffordd o’r enw Qunu yn Ne Affrica. Does yna ddim arbenigrwydd mawr i’r lle. Mae’n ardal ddigon hardd ond does dim dinas fawr yno. Does yna ddim diwydiant trwm, neu fwyngloddiau, neu brifysgol i ddod â chyfoeth nac arbenigrwydd i’r ardal. Ond yno y ganwyd Nelson Mandela, ac yno heddiw fe’i cleddir, lle mae ei gyndadau a thri o’i feibion wedi eu claddu. Dyna sydd wedi gosod y lle ar y map – mae’r mab a anwyd yno wedi ei wneud yn fan y bydd pobl yn teithio iddo i dalu gwrogaeth i’r dyn fu mor allweddol yn hanes diweddar y wlad. (rhagor…)