Nadolig
Nadolig 2014 – Y Seren
A phan welsant y seren, yr oeddent yn llawen dros ben. (Mathew 2:10 BCN)
Mae llawer o ddyfalu wedi bod am seren Bethlehem. Beth yn union welod y Doethion? Ai comed oedd, megis comed Halley? Neu tybed ai dwy blaned â’u golau yn cyd-daro i ymddangos fel seren arbennig o ddisglair. Bu’r astronomyddion yn edrych ar batrymau’r sêr a cheisio dyfalu pryd yn union y bu hyn. (Mae cytundeb fod y rhai fynnodd yn y 6ed ganrif ar ddyddiad geni Crist yn anghywir.) (rhagor…)