Adfent 2013
Tymor yr Adfent xiv
Gwelais erthygl ddoe oedd yn sôn am ficer wnaeth droseddu yn erbyn rhieni a phlant rhyw ysgol. Fe fynnodd ddweud mewn gwasanaeth boreol wrth y plant nad oedd Siôn Corn yn real, a’i fod wedi ei seilio ar hanes tybiedig Sant Nicholas, a barodd i dri plentyn oedd wedi eu mwrdro ddod yn ôl yn fyw. Tydw i ddim am wneud unrhyw sylw am ddoethineb (neu ddiffyg doethineb) dweud wrth blant 5 – 11 oed nad yw Siôn Corn yn bod. (rhagor…)