Adfent 2013
Tymor yr Adfent xxi
Ddoe, a minnau wedi mynd allan i ymweld â rhywun, roeddwn yn gwrando ar y radio yn y car. Classic FM oedd yr orsaf, a minnau’n mwynhau’r gerddoriaeth. Wrth i mi nesáu at y tŷ, dyma’r darlledwr yn cyhoeddi – mewn dau funud roedden nhw’n mynd i chwarae recordiad o ryw bianydd rhyfeddol oedd newydd ymddangos – y gair ddefnyddiwyd oedd – unmissable. Wel, mi wnes i ei fethu. Erbyn mynd i mewn i’r tŷ, daeth cant a mil o bethau eraill i lenwi fy mryd, ac felly mi fethais glywed y gerddoriaeth ragorol oedd wedi ei addo. (rhagor…)