Tymor yr Adfent 14

imageDarllenwch Eseia 9:2-7

Os oeddem ddoe yn meddwl am y baban ym Methlehem fel yr had – un ohonom ni, mae yn wahanol i ni hefyd. Mae geiriau Eseia yn agor y drws i ni weld mwy. Mae cerddoriaeth wych Handel yn ei oratorio yn gorfoleddu yn y seithfed adnod, gan adeiladu at y gair “Wonderful” sy’n dod fel bloedd ogoneddus gan y côr. Gadewch i ni aros gydag un o’r enwau yma heddiw: y Duw cadarn. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 2014, 8

imageI ddinistrio gweithredoedd y diafol yr ymddangosodd Mab Duw. (‭1 Ioan‬ ‭3‬:‭8‬ BCN)

Sut wythnos sydd o’ch blaen tybed? Ydech chi yn edrych ymlaen at y dyddiau nesaf, neu oes yna elfen o bryder, ansicrwydd neu hyd yn oed ofn? Mae hanes geni ein Harglwydd yn dwyn gobaith i’n byd, a gobaith am y dyddiau nesaf.

Gwyddom mai bwriad y diafol wrth demtio Efa oedd dinistrio gwaith Duw. Gwelwn ôl ei waith bob dydd yn y newyddion ddaw drwy’r teledu. Ond gwelwn ei ôl hefyd yn yr ofnau sydd gennym ni wrth wynebu dyfodol ansicr. (rhagor…)

Tymor yr Adfent xx

“Dwi’n methu aros!” – Mae’n ymadrodd sydd wedi ei ddweud gan lawer o blant dros y blynyddoedd wrth feddwl am y diwrnod mawr – y diwrnod pryd y bydd Siôn Corn wedi cyrraedd a’r anrhegion yn cael eu hagor. Mae llawer mwy ohonom, er efallai na fyddem yn defnyddio’r ymadrodd, eto wedi teimlo’r un fath – efallai nid am ddydd Nadolig ond rhyw ddigwyddiad arall – y gwyliau yn dechrau, cyfarfod â rhywun, diwrnod priodas… gallwch chi feddwl am yr hyn rydych chi wedi bod yn dyheu amdano. Ond weithiau rydym yn gorfod aros – aros nes ein bod hyd yn oed yn amau os cawn ni gyrraedd y diwrnod neu’r digwyddiad. (rhagor…)

Tymor yr Adfent xvi

Familiarity breeds contempt meddai’r hen air. Efallai mai gwireb fwy cywir parthed hanes y Nadoilig fyddai’r hyn ddywedodd rhywun arall yn ddiweddar: Familiarity breeds inattention. Rydym mor gyfarwydd â rhai geiriau ac adnodau, fel nad ydym yn meddwl yn ddwfn iawn am eu hystyr, Cymrwch chi’r adnod honno o Eseia:

Canys bachgen a aned i ni, mab a roed i ni, a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd. (Eseia 9:6)

(rhagor…)

Tymor yr Adfent iii

Beth mae hanes y Nadolig yn ei ddangos? Beth yw’r peth mwyaf amlwg yn y cyfan? Os ydych wedi darllen y ddwy fyfyrdod flaenorol, fe wyddoch ein bod wedi bod yn edrych ar Eseia 40 gyda Handel yn ei oratorio enwog. Mae’r tenor wedi cael agor yr oratorio gyda dwy gân, ond yna daw pawb i mewn i ymuno mewn corawd ysbrydoledig i ddatgan yr hyn yr oedd Eseia wedi ei ddirnad: “A gogoniant yr Arglwydd a ddatguddir, a phob cnawd ynghyd a’i gwêl” (Eseia 40:5) (rhagor…)